Nick Ramsay AC 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

15 Medi 2016

 

Annwyl Nick

Gweler yn atodedig ohebiaeth ar 1 Medi 2016 gan Adam Price AC yn mynegi ei bryderon ynghylch uniad Tai Cantref a Thai Wales & West. Mae fy ymateb innau ar 14 Medi hefyd wedi'i atodi. 


Rwy'n deall y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod ymchwiliadau posibl i'w cynnal yn y dyfodol yn ei gyfarfod nesaf. Gan fod hwn yn fater o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, teimlwn y byddai'n addas rhannu hyn gyda chi. 

Rhowch wybod i mi os yw'r pwyllgor yn penderfynu ymchwilio i'r mater hwn. 

Edrychaf ymlaen at glywed gennych. 

Cofion cynnes

  

John Griffiths AC

Cadeirydd